td>

Byddai’n fanteisiol i arweinwyr Llywodraeth Cymru gymryd pob cyfle i ddatgan yn glir ac yn gyhoeddus ymrwymiad i’r weledigaeth- Cael system addysg a hyfforddiant sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, sy’n cyrraedd ein cymunedau amrywiol ac yn eu hadlewyrchu ac sy’n sicrhau cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran a chefndir sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

Buddsoddiad addas i gyflogi swyddogion i arwain/cefnogi a chyllid i baratoi deunyddiau i gefnogi’r gwaith.

 

Byddai’n fanteisiol sicrhau amser i gyd gordio'n lleol ac yn genedlaethol.

 

Mae prif grant hyfforddiant yn cael ei ddosbarthu i glystyrau o ysgolion erbyn hyn, felly rhaid i hyfforddiant Cymraeg gystadlu gyda blaenoriaethau eraill am sylw.

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd/uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Ar bapur mae'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ymrwymo i sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl. Serch hynny mae yna heriau-

 

·         Sicrhau darpariaeth ieithyddol safonol i gynnal pob disgybl yn enwedig yn y sector anghenion arbennig.

·         Sicrhau gweithlu gyda’r sgiliau i ddarparu’n ddwyieithog.

·         Cydlynu darpariaeth addysg gyda mentrau eraill- Cymraeg I Oedolion, datblygiadau cymunedol.

Yn aml nid yw staff Ysgol (Penaethiaid/athrawon) yn gallu egluro manteision dwyieithrwydd i rieni.

 

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

·         Buddsoddiad yn y gweithlu gyda’r nod o ddatblygu ymarferwyr dwyieithog effeithiol ar gyfer pob Ysgol. Yr unig ffordd i ddatblygu’r Gymraeg fel Ail Iaith/darparu ar gyfer ADY drwy’r Gymraeg  yn effeithiol yw cael cyflenwad o staff cymwys.

·         Her cyflogi staff cefnogol gyda sgiliau dwyieithrwydd addas.

·         Cydlynu gwasanaethau yn fwy effeithiol gan sicrhau fod pob gwasanaeth/ asiantaeth  sy’n cefnogi’r Gymraeg yn cydweithio.

·         Datblygu pecyn o wybodaeth i ysgolion i gynorthwyo gyda’r sgwrs am fuddion addysg ddwyieithog.

·         Angen buddsoddi mewn rhaglen o ddatblygu sgiliau iaith athrawon- mae nifer o staff yn syrthio rhwng dwy stôl y Cwrs Sabothol /Gloywi Iaith. Mae angen darparu ar y lefel ganolradd, gan ganolbwyntio ar sgiliau addysgu cyfrwng Cymraeg.

Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Hwyluso'r broses o symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith.

Mae'r broses o newid categori iaith ysgolion yn heriol.

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

·         Rhaid gweithio tuag at ledu arfer dda ac edrych y tu hwnt i Gymru o ran hybu a chynnal system addysg ddwyieithog.

·         Rhaid hybu manteision dwyieithrwydd ar lefel cenedlaethol a chwalu'r 'myths'.

·         Rhaid cynorthwyo ein disgyblion i ymfalchïo yn yr iaith a sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn fwy nag iaith y dosbarth.

·         Angen i ni weithio yn well gyda phartneriaid (mentrau, Trywydd ac ati) a dysgu pa gymorth ac arbenigedd sydd ar gael

·         Llyfrgell ar-lein o adnoddau i hyrwyddo’r Gymraeg.

·         Safonau iaith Athrawon Newydd Gymhwyso- angen cydweithio’n nes gyda darparwyr.